Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Mehefin 2022
Amser:
09.16 -
15.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12870
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Jayne Bryant AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Jo Richardson, De Montfort University Allison Hulmes, British Association of Social Workers (BASW) Cymru Dafydd Llywelyn, Dyfed-Powys Police and Crime Commissioner Carl Foulkes, Heddlu Gogledd Cymru Pam Kelly, Heddlu Gwent |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22
Cytunodd y Pwyllgor i ethol Carolyn Thomas AS yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
3 Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - sesiwn dystiolaeth 2
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Yr Athro Jo Richardson, Deon Cyswllt Ymchwil ac Arloesedd / Athro ym maes Tai ac Ymchwil Gymdeithasol, Prifysgol De Montfort
Allison Hulmes, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, BASW Cymru
3.2. Yn ystod y dystiolaeth, cytunodd yr Athro Jo Richardson i ddarparu’r canlynol:
· copi o'r adroddiad a luniwyd ar gyfer Sefydliad Joseph Rowntree;
· copïau o'r adroddiadau sy'n cynnwys enghreifftiau o arferion gorau awdurdodau lleol.
3.3. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Allison Hulmes i ddarparu copi o ymchwil a gynhaliwyd yn 2022 gan “The British Journal of Social Work” yn ymwneud â gor-gynrychiolaeth plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau lles plant neu sy’n derbyn gofal y wladwriaeth.
4 Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - sesiwn dystiolaeth 3
4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Prif Gwnstabl Carl Foulkes, Heddlu Gogledd Cymru
Prif Gwnstabl Pam Kelly, Heddlu Gwent
Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu Dyfed-Powys
4.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes i ddarparu copi o dull pum cam Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer ymgysylltu â chymunedau, sef yr hyn a ddefnyddiwyd cyn gweithredu deddfwriaeth yn ystod y pandemig Covid.
4.3. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Dafydd Llywelyn i ddarparu’r canlynol:
· nodyn briffio yn ymwneud â nifer y gwersylloedd anghyfreithlon sydd gan Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru;
· gwybodaeth bellach yn ymwneud â fforwm ieuenctid cymunedol Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn sir Benfro.
5 Papurau i’w nodi
5.8 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch goblygiadau rhaglen deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU i'r Senedd
5.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â goblygiadau rhaglen ddeddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer y Senedd.
5.2 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch ail gartrefi
5.2.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch ail gartrefi.
5.3 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch diogelwch adeiladu
5.3.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â diogelwch adeiladau.
6 Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - sesiwn dystiolaeth 4
6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Daniel Hurford, Pennaeth Polisi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
6.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu’r canlynol:
· ffigurau ar gyfer y safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr lle mae cais am ganiatâd cynllunio wedi llwyddo, a’r tir a brynwyd wedi hynny
· ffigurau ar gyfer y blynyddoedd o hyfforddiant i gynghorwyr ledled Cymru ynglŷn â darparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, fel yr amlinellir yng nghynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru
· nodyn i egluro nifer y safleoedd tramwy yng Nghymru
· nodyn ar enghreifftiau o arfer gorau ymysg awdurdodau lleol o ran ymgynghori ac ymgysylltu â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ynglŷn â darparu safleoedd.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Ymchwiliad i ddarpariaeth safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3, 4 a 6
8.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3 a 4.
9 Trafod y materion allweddol mewn perthynas â chartrefi i ffoaduriaid o Wcráin
9.1. Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol ar gyfer ei waith mewn perthynas â chartrefi i ffoaduriaid o Wcráin a chytunodd arnynt.